You are using an outdated browser. For a faster, safer browsing experience, upgrade for free today.

FREE UK DELIVERY
ON 3 CASES OR MORE

img
img
View your shopping cart 0

Cwestiynau cyffredin

Ydych chi’n defnyddio olew palmwydd cynaliadwy?

Ydym, daw ein holew palmwydd i gyd o ffynhonnell gynaliadwy. Rydym yn hollol ymwybodol o’r problemau sy’n gysylltiedig â chanfod olew palmwydd, ac rydym wedi cymryd hyn i ystyriaeth wrth chwilio am ein cynhwysion, yn arbennig yr olewau llysiau a brasterau o darddiad palmwydd. Yn anffodus, ar hyn o bryd, nid newid olew palmwydd am olew arall yw’r ateb cywir i ymdrin â’r problemau amgylcheddol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â meithrin olew palmwydd; i newid yr olew palmwydd am fathau eraill o olew llysiau, byddai angen defnyddio llawer iawn mwy o dir, am fod coed palmwydd yn cynhyrchu 4-10 gwaith mwy o olew. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom ar info@brynmorfoods.com

A yw eich cynhyrchion i gyd yn rhydd o glwten?

Ydyn, mae’n bleser gennym ddweud bod ein cynhyrchion i gyd yn rhydd o glwten ac felly y bydden nhw bob amser.

Pa gynhyrchion sy’n addas i feganiaid?

Dyma’r unig gynhyrchion nad ydynt yn addas i feganiaid:

Fflapjac Siocled Brynmor 80g
Fflapjac Cyffaith Caramel Brynmor 80g
Fflapjac Protein Caramel Hallt Brynmor 52g
Mae gweddill ein hystodau Brynmor i gyd yn gwbl addas i feganiaid

A yw eich bariau i gyd yn addas i lysieuwyr?

Ydyn, mae’n bleser gennym ddweud fod pob un o’n fflapjacs Brynmor yn addas i lysieuwyr ac wedi’u hardystion a’u cymeradwyo gan y gymdeithas llysieuwyr.