You are using an outdated browser. For a faster, safer browsing experience, upgrade for free today.

FREE UK DELIVERY
ON 3 CASES OR MORE

img
img
View your shopping cart 0

Ers mwy na 25 mlynedd mae ein pobyddion arbenigol wedi bod yn cyflwyno byrbrydau arloesol, gan ddatblygu fflapjacs sy'n demtasiwn blasus gydag amrywiaeth o flasau cyffrous a manteision i'ch iechyd.

Wrth ei galon, mae gan Brynmor dîm ymroddedig o arbenigwyr mewn pobi sydd wrth eu boddau'n archwilio ac arloesi. Am fwy na 25 mlynedd, yma yn nhirlun prydferth Cymru, rydym wedi bod yn datblygu cynhyrchion sy'n darparu blasau cyffrous wedi'u cyfuno â manteision gwych i'r iechyd.

I bobl ymhob man sy'n caru bwyd, mae cael byrbrydau'n rhan hanfodol o'r dydd i roi tanwydd i'ch corff a'ch meddwl. P'un a ydych yn cefnogi blasau traddodiadol neu'n teimlo'n barod am antur a rhoi cynnig ar flasau newydd, mae gennym y dewis perffaith i chi (heb yr euogrwydd).

Byrbrydau Brynmor amdani!

Gyda'n fflapjacs 80g traddodiadol, yr ystod protein a'r ystod llai o siwgr i ddewis o'u plith, mae ein cynhyrchion yn cynnig rhywbeth i bawb, a daw pob un gydag amrywiaeth o wir fanteision i'r iechyd, yn cynnwys:

benefits
bryn

Dyma Bryn

Bryn, ein harchwiliwr brwd, yw ymgorfforiad y brand Brynmor.

Fel pob un ohonom, roedd ef hefyd yn chwilio ymhell ac agos am fyrbryd fyddai'n well i'w iechyd na'i far siocled dyddiol, a chafodd hyd i'r byrbryd perffaith gyda fflapjacs Brynmor.

Mae Bryn yn cyfaddef ei hun ei fod yn anturiaethwr go iawn. Mae wedi treulio dyddiau lawer yn mwynhau'r awyr agored, yn dringo mynyddoedd, cerdded bryniau, trecio drwy fforestydd, a rhydio drwy afonydd a nentydd. A lle bynnag y bydd, neu pwy bynnag y mae'n cwrdd â nhw ar ei ffordd, bydd bob amser yn sicrhau bod ganddo'i fflapjacs Brynmor bendigedig gydag o i'w gadw'n mynd drwy gydol ei anturiaethau.

Read Bryn's Blog